Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Hydref 2015
Amser: 09.19 -
12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod
ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3270
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC John Griffiths AC Altaf Hussain AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru Sue Bowker, Llywodraeth Cymru Dewi Jones, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1.1 Cytunodd y Pwyllgor i graffu ar y Bil Cymru drafft , yn enwedig ar yr effaith y gall y model cadw pwerau arfaethedig ei chael ar y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd 2015.
1.2 Er mwyn caniatáu amser i anghenion busnes eraill, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i aildrefnu trafodion Cyfnod 2 ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) ar gyfer dydd Mercher, 25 Tachwedd. Mae hyn yn amodol ar fod y Cynulliad yn cytuno ar y penderfyniad ariannol, sydd wedi’i drefnu i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd.
2.1 Trafododd yr Aelodau y materion allweddol wrth baratoi ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog.
3.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
4.1 Datganodd Lindsay Whittle y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Mae’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
4.2 Bu’r Gweinidog yn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau.
4.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
· nodyn i’r Pwyllgor i egluro a fyddai tatŵio, fel y’i diffinnir yn y Bil, yn cynnwys triniaethau tebyg, fel ‘tashing’;
· nodyn ar sut y mae’n bwriadu diwygio Rhan 4 o’r Bil i ymestyn y darpariaethau o fewn y rhan hon i gynnwys tyllu’r tafod; a
· chopi o’r astudiaeth, y cyfeiriodd ati, am y gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghaliffornia ynghylch e-sigaréts.
5.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.
5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.
5.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.2 Cynigiodd y Cadeirydd hefyd i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfodydd ar 5 Tachwedd ac 11 Tachwedd 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi). Cytunwyd ar hyn.
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod:
· y dystiolaeth a ddaeth i law; a’r
· materion allweddol sydd wedi codi yn ystod ei gyfnod yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil.